top of page
Streetscape.png

Trefi Digidol Sir Benfro

Sut mae defnyddio grym technoleg a data digidol clyfar i drawsnewid eich canol tref?

Croeso i wefan rhaglen Trefi Digidol Sir Benfro

 

Bydd y wefan hon yn cael ei diweddaru wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, felly cadwch lygaid arni’n rheolaidd i gael y newyddion diweddaraf, neu cofrestrwch am ddiweddariadau e-bost.

Trefi Smart Sir Benfro: cofrestrwch nawr!

 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch beth yw Tref Smart, gwybod mwy sut mae cymunedau a busnesau lleol ledled Cymru yn elwa o ddilyn dull Trefi Smart, a gwybod sut i gymryd rhan ym mhrosiect Trefi Smart Sir Benfro? 

 

Ymunwch â ni yn un o’r digwyddiadau canlynol am ddim:

Dydd Mercher 9 Hydref, 6.30-8pm, Hwlffordd, RSVP

Dydd Gwener 11 Hydref, 11am-2pm, Penfro, RSVP

Dydd Iau, 17 Hydref, 2-3pm, Ar-lein, RSVP

Mae’r digwyddiadau yn agored i bawb yn Sir Benfro sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am Drefi Smart, ond gallant fod o ddiddordeb penodol i fusnesau annibynnol, grwpiau busnes, Cynghorau Tref neu sefydliadau lleol eraill.

 

Bydd y digwyddiadau yn cael eu cyflwyno gan Trefi Smart Cymru, y rhaglen a gyllidir gan Lywodraeth Cymru sy’n annog a hwyluso Trefi Smart.

Mae tref smart yn ardal drefol sy'n defnyddio gwahanol fathau o ddulliau electronig a synwyryddion i gasglu data. Defnyddir mewnwelediadau a geir o'r data hwnnw i reoli asedau, adnoddau a gwasanaethau yn effeithlon; yn ymateb I hyn felly, defnyddir y data hwnnw i wella gweithrediadau a ffyniant yn y dyfodol ar draws y dref. (Smart Towns Cymru)

Mae canol trefi ledled Cymru eisoes yn profi manteision: 
  • Deall patrymau ymwelwyr er mwyn addasu oriau agor, stoc a staffio.

  • Lleihau gwastraff a symleiddio prosesau.

  • Adnabod proffil ymwelwyr ar gyfer strategaethau marchnata mwy effeithiol.

  • Cynyddu cyfraddau troedio a denu mwy o ymwelwyr.

  • Cynllunio ymlaen llaw trwy ragweld effeithiau tywydd, digwyddiadau, a ffactorau eraill.

  • Creu amgylchedd gwyrddach a glanach.

  • Helpu busnesau i ffynnu a chreu canol trefi bywiog. 

​​I dderbyn mwy o wybodaeth am y prosiect trwy e-bost, cwblhewch y ffurflen isod:

Your Town/Tref
Ynglŷn â’r prosiect hwn:

Mae Cyngor Sir Benfro wedi comisiynu consortiwm o gwmnïau, o dan arweiniad Owen Davies Consulting Ltd, i weithredu’r prosiect newydd creu lleoedd hwn yn chwech o drefi Sir Benfro (Abergwaun ac Wdig, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro, Doc Penfro a Dinbych-y-Pysgod) rhwng misoedd Awst a Rhagfyr 2024.

 

Yr hyn a gynhyrchir gan y prosiect fydd Cynllun Tref Smart ar gyfer pob un o’r trefi, gan gynnwys dilyniant o brosiectau datblygu, wedi eu blaenoriaethu a’u costio, a fydd yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid pan fydd ar gael.

​Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, cysylltwch ag Adam Greenwood yn Owen Davies Consulting, gan ddefnyddi o adam@owendaviesconsulting.co.uk

Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan Lywodraeth Prydain trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

 

Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU wrth fuddsoddi mewn cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

 

Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus

download.jpg
Core Logo.jpg
logo.jpg
c756a1cce5b44c6a85060caf31bdd4ce.jpg
download.png
bottom of page